SL(6)478 – Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio) (Cymru) 2024

Cefndir a Diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio cyfraith a gymathwyd (a elwid gynt yn gyfraith yr UE a ddargedwir) i ddileu’r gofyniad i baratoadau cig gael eu rhewi’n ddwfn pan fyddant yn cael eu mewnforio i Gymru. Bydd hyn yn caniatáu i baratoadau cig wedi'u hoeri o wladwriaethau'r Ardal Economaidd Ewropeaidd barhau i gael eu mewnforio, ac yn caniatáu mewnforion yr aseswyd eu risg o weddill y byd o 28 Ebrill 2024, yn unol â Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban. Mae'r Rheoliadau hefyd yn dirymu offerynnau a darpariaethau mewn offerynnau eraill sydd wedi dod i ben sy'n ymwneud â dileu'r gofyniad hwn.

Y weithdrefn

Negyddol

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu’r Rheoliadau o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y cawsant eu gosod gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y ddau bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Daw'r Rheoliadau i rym ar 28 Ebrill 2024, dim ond 14 diwrnod ar ôl iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd, ac felly mae’r rheol 21 diwrnod wedi’i thorri. Mewn llythyr dyddiedig 12 Ebrill 2024 at y Llywydd, dywed Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig:

Mae Rheoliadau 2024 yn cyd-fynd â'r ddeddfwriaeth ar gyfer Model Gweithredu Targed y Ffin (BTOM) sy'n cael ei chyflwyno gan Lywodraeth y DU. Bydd y ddeddfwriaeth BTOM hon yn tanio rheolaethau ffisegol ar nwyddau Iechydol a Ffytoiechydol perthnasol o ddiwedd mis Ebrill, a bydd hefyd yn estyn y Cyfnod Graddoli Trosiannol (TSP) a fydd yn gohirio ymhellach wiriadau ar gyfer nwyddau sy'n cyrraedd o Iwerddon. Rhaid i Reoliadau 2024 ddod i rym ar 28 Ebrill cyn i'r TSP presennol ddod i ben ar 29 Ebrill.

Mae rheoliadau BTOM Llywodraeth y DU ar ei hôl hi. Mae'n bosibl na fyddant yn cael eu gosod ar y ffurf a fwriadwyd i ddechrau (er enghraifft, drwy ddileu cynnwys neu rannu i wahanol offerynnau), ac mae'n debygol na fydd Llywodraeth y DU yn cadw at y confensiwn 21 diwrnod ar gyfer o leiaf un set o'u rheoliadau. Hyd yn hyn, mae fy swyddogion yn parhau i fod yn ansicr o ran y ffordd bendant ymlaen gan Lywodraeth y DU. Yn ddealladwy, mae hyn wedi cael sgil effaith ar y cynnydd a wnaed wrth wneud Rheoliadau 2024 oherwydd awydd cyffredinol am ddull synergaidd ar draws Prydain Fawr.

O ystyried nad yw dyddiad dod i ben y TSP (29 Ebrill) yn symudol, mae'n ddrwg gennyf, ar yr achlysur hwn, o ystyried y pwyntiau yr wyf wedi'u hamlinellu, y bydd Rheoliadau 2024 yn dod i rym lai na 21 diwrnod ar ôl iddynt gael eu gosod.

Pe na bai'r Rheoliadau yn cael eu gwneud, byddai'r esemptiad presennol sydd ar waith yn dod i ben ar 29 Ebrill. Byddai hyn yn golygu y byddai paratoadau cig sydd heb eu rhewi ar dymheredd mewnol o ddim mwy na –18 °C yn y safle cynhyrchu neu'r safleoedd cynhyrchu tarddiad, yn yr UE a'r AEE, yn anghyfreithlon i'w mewnforio i Gymru. Byddai'r gofyniad i'r nwyddau hyn gael eu rhewi'n ddwfn yn rhwystr sylweddol i lif masnach rydd.

Yn ogystal, byddai Cymru'n methu â chyd-fynd â dull gweithredu ledled Prydain Fawr y cytunwyd arno yn y Grŵp Polisi Anifeiliaid a Chlefydau ac y mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban hefyd yn gwneud darpariaeth ar ei gyfer. Byddai hyn yn achosi gwahaniaethau o ran polisi a gwahaniaethau deddfwriaethol a dryswch i fasnachwyr.

2.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Mae’r Memorandwm Esboniadol i’r Rheoliadau yn nodi na chynhaliodd Gweinidogion Cymru ymgynghoriad mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Mae paragraff 6 o'r Memorandwm Esboniadol yn dweud:

Nid yw'r gofyniad am ymgynghoriad yn codi o dan Reoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011. Felly, nid yw Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori mewn perthynas â'r offeryn hwn. Fodd bynnag, bu trafodaethau helaeth ledled Prydain Fawr â rhanddeiliaid o fewn y diwydiant bwyd-amaeth ac â phartneriaid cyflawni sy'n gyfrifol am reolaethau ar y ffin (fel awdurdodau ffiniau lleol, yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion a'r Asiantaeth Safonau Bwyd) ers Ionawr 2021.

Hefyd, bu ymgynghori â gweinyddiaethau eraill y DU, a'r ASB ar y polisi a effeithiwyd gan yr offeryn hwn. Mae'r sefyllfa barhaol newydd hon ynghylch yr holl nwyddau P&R ar gyfer mewnforion wedi'i threialu gyda'r Gymdeithas Masnachwyr Cig Rhyngwladol (IMTA) mewn fforwm rhanddeiliaid rheolaidd dan arweiniad Defra, ac mewn nodyn rhanddeiliaid i gymdeithasau masnach POAO ym mis Ionawr 2024 (na chafwyd unrhyw ymatebion iddynt). Anfonwyd llythyr pellach gan Defra ym mis Mawrth 2024 at randdeiliaid ynghylch gweithredu Model Gweithredu Targed y Ffin yn ehangach a oedd hefyd yn amlinellu ac yn cyfeirio at y newidiadau y mae'r Rheoliadau hyn yn eu gwneud.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

17 Ebrill 2024